P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn
Lladd-dai
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Animal Aid ac ystyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor yn ystod
Tachwedd 2012, ar
ôl casglu 1066 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog
Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn orfodol i osod teledu cylch
cyfyng mewn lladd-dai er mwyn helpu milfeddygon i reoli a monitro
yn well, darparu deunydd ffilm er budd hyfforddiant ac
ail-hyfforddi, atal cam-drin anifeiliaid, fel y ffilmiwyd gan
Animal Aid, ac fel tystiolaeth ar gyfer erlyniad mewn achosion o
gam-drin.